Ewinedd gel BIAB
Mae'r wasanaeth yma yn berffaith i bobl sy'n gweithio adre neu i rieni i blant ifanc - rydw i'n dod atoch chi! Mi fyddaf yn troi lan gyda fy mocs ac yn gosod lan yn eich ty chi, yr oll sydd angen yw bwrdd, dwy gadair a phlwg gweddol agos. Gyda phob un o'r gwasanaethau isod mi fydd eich ewinedd yn cael eu paratoi yn iawn i gael eu paentio gyda haen o BIAB (builder in a bottle), mae BIAB yn creu ewinedd cryf a thrwchus ond yn hyblyg i weithio fel gewin naturiol cryf, ac yna eich dewis chi o baent gel. Mi fydd pob gwasanaeth yn gorffen gyda olew cwtigl a hufen dwylo gyda 'massage' fach i ailhydradu eich dwylo a chwtiglau (os oes well gennych beidio cael y wasanaeth yma, gadewch i mi wybod!).
Lliw bloc
Yr opsiwn mwyaf rhad, cyflym a syml. Ar ôl cael eich ewinedd wedi'u paratoi, dewiswch o dros 30 o liwiau, neu mae croeso i chi ddewis nifer o liwiau gwanahol! Mae wedyn opsiwn o haen uchaf sgleiniog neu 'matte'. Mae'r wasanaeth yma yn cymryd tua awr.
Celf syml
Mae'r opsiwn yma'n berffaith os hoffech chi rhywfaint o gelf : un neu ddau ewin gyda chelf a'r lleill yn liw bloc, neu gelf syml fel dotiau neu linellau, calonau bach neu sêr. Os nad ydych yn siwr am ba opwisn i ddewis ond yn gwybod pa ddyluniad hoffech, anfonwch ebost neu neges a fe allwn drafod be sydd orau! Ddyliai'r wasanaeth yma bara tua awr a hanner.
Celf dyrys
Dyma'r opsiwn i ddewis os hoffech chi batrwm anifail, sgwigls, patrwm dyrys, celf abstract, patrwm natur.. be bynnag creadigol gallwch feddwl amdano - ond mwy neu lai pob gewin yr un peth. Yn dibynnu ar beth ddewiswyd dyliai'r wasanaeth yma bara tua awr a hanner i ddwy awr a hanner.
Pick & mix
Dyma'r opsiwn mwyaf creadigol, mwyaf 'extra'. Mae croeso i chi ofyn am unrhywbeth gyda'r opsiwn yma : celf wahanol ar bob bys, patrwm dyrys, pob lliw dan yr haul.. Beth bynnag hoffech chi! Dyliai'r wasanaeth yma bara tua dwy i dair awr yn dibynnu ar fanylder y set.
Tynnu set
Gall dynnu unrhyw set o ewinedd gel - rhai gwnaethwyd gyda hiwti neu ddim! Cyn belled a mai gel yn unig yw'r set cyn. Caiff y gel ei dynnu gan ddefnyddio clipiau a pheli chotwm, a wedyn caiff yr ewinedd eu paratoi - ffeilio a chaiff y cwtiglau eu tacluso. Yna mae'r ewinedd yn barod am set newydd o baent gel, neu gallwn gael eu gadael yn noeth - heb set newydd.