top of page
Untitled design (5).jpg

Am HIWTI

Croeso, a diolch am ymweld â fy ngwefan! Mari ydw i, yn wreiddiol o Aberystwyth ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yn ôl yn Nadolig 2016 mi wnes i fap o Gymru â chalon ar Sir Drefaldwyn yn anrheg i Mam, ar ddarn o bren o'r traeth, gyda hoelion o siop leol, ac edau o'r bocs gwnïo yn y gegin. Roedd ymateb mam yn un mor calonogol, a dyna pam ddechreuais i HIWTI – yn y gobaith o godi calonnau pobl eraill.

​

Yn 2019 gofynnodd fy chwaer i mi wneud 2 noethlun ar gyfer ei hystafell ymolchi newydd - tiriogaeth newydd i fi ar y pryd - ond cyfle arbennig i arbrofi gyda fy nghelf a chreadigrwydd! Mwynheais y broses a phenderfynais gynnig noethluniau fel rhan o fy musnes a chyn hir roedd fy nyluniadau wedi'u printio ar grysau T. Yn haf 2020 postiais lun o fy hun gyda fy mol ar ddangos i fy instagram.. Dyma ddechrau ar y siwrne hyder corfforol i HIWTI!

​

Erbyn hyn mae HIWTI wedi datblygu a thyfu a newid gryn dipyn.

Erbyn hyn, rwyf wedi arbrofi gyda llawer o gynnyrch gwahanol - bagiau, crysau T, canfasau, mygiau, hetiau - pob math o bethau yn honni fy noethluniau arnynt. 

​

Ambell flwyddyn o arbrofi a therfynu yn ddiweddarach, rwyf wedi crynhoi y gwasanaethau a chrynnyrch rwy'n eu cynnig i ganolbwyntio yn drylwyr ar y rhai sydd yn gweithio orau i fi fy hun ac i fy nghwsmeriaid.

bottom of page