top of page
Untitled design (8).jpg

Am HIWTI

           Croeso, a diolch am ymweld â fy ngwefan!   Mari ydw i, yn wreiddiol o Aberystwyth ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Fi sydd tu ôl i'r fusnes fach yma. Fe ddechreuais greu celf unigryw yn 2016 ochr yn ochr efo swydd rhan amser fel barista! Fe roddais orau i fy swydd rhan amser ddiwedd 2019 i ganolbwyntio'n llwyr ar hiwti! Ers hynny mae'r busnes    wedi newid a thyfu i'r lle y mae e nawr! Erbyn hyn       mae hiwti yn ymgais i uno celf a hyder corfforol, sef dau beth rwy'n teimlo'n angerddol iawn amdanynt. 

bottom of page