top of page
Untitled design (4).jpg

Gweithdai Hyder Corfforol

Dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod wrthi’n hyrwyddo hyder corfforol, ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar raglenni radio a theledu yma yng Nghymru. Mae hyder corfforol yn hynod, hynod bwysig i fywyd bob dydd ac i bobl o bob rhyw ac oedran! Mae'n rhywbeth dwi'n teimlo'n gryf iawn amdano. Treuliais flynyddoedd lawer yn fy

arddegau a ugeiniau cynnar yn dioddef o ddiffyg hyder gan fod gen i berthynas negyddol iawn gyda fy ngorff. Ers ambell i flwyddyn rwyf wedi gweithio'n galed (ac yn parhau i weithio'n galed bob dydd) ar y berthynas yna ac wedi cyrraedd pwynt ble rydw i’n parchu ac yn dathlu  fy nghorff!

Rwy’n teimlo nad oedd digon o help ar gael imi ddysgu gwneud hynny a bod yn rhaid imi neud lot o ymchwil a gwaith caled fy hunan i gael yr help oedd ei angen arna’i i wella fy hyder corfforol. Oherwydd hynny dwi’n awyddus iawn i fynd ati i helpu gymaint o bobl â phosib i fagu hyder a lledaenu’r neges.

  A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn gweithdy Hyder Corfforol dan fy arweiniad i, wedi’i deilwra ar gyfer eich sefydliad chi a'r oedran 

   fydd yn mynychu? Byddai'r gweithdy yn para am tua awr (yn dibynnu ar eich amserlen chi) ac yn canolbwyntio ar yr holl bethau positif am ein cyrff. Mi fyddai’n dechrau gyda sesiwn dod i nabod ein gilydd, yna'n

yna’n mynd ati i ddarganfod sut mae pobl yn teimlo am eu cyrff, cyn trafod sut mae ein corff yn ein helpu i fyw ein bywydau bob dydd – coesau i gerdded o un lle i’r llall ac ati, yna cloi gyda sesiwn o ganolbwyntio ar ein hanadlu a meddwl am ba mor anhygoel yw'r corff a pham y dylem ddathlu ein cyrff! Os ydy hyn yn rhywbeth y byddai gennych ddiddordeb ynddo, mi fydden i’n falch iawn o gael y cyfle i drafod a threfnu ymhellach. Anfonwch ebost at marigwenllian@hiwti.com neu neges ar instagram i @h.i.w.t.i, neu mae croeso i chi ffonio ar 07985505024. 

​

Diolch,

Mari Gwenllian

bottom of page